Gwybodaeth

Cliciwch yma i chwilio drwy Gronfa Frawddegau Breizh-Llydaw.

Pan o’n i’n dysgu Llydaweg, ro’n i’n ffodus iawn i allu defnyddio adnoddau arbennig o dda oedd yn bodoli ar y rhyngrwyd. Un o’r rheini oedd Kervarker – ac mae’n hyfryd gweld bod y wefan yn dal i fynd! Dyna oedd y ‘cwrs’ Llydaweg cyntaf i fi ei ddilyn.

Adnodd arall oedd yn cynnig rhywbeth unigryw a gwerthfawr oedd y wefan brezhoneg.org.uk. Roedd hi’n hynod ddefnyddiol am ddau reswm: nid yn unig gallu chwilio am eiriau a’u darllen o fewn cyd-destun brawddeg, ond hefyd cael gweld y cyd-destun hwnnw yn y Gymraeg, hefyd.

Sgrinlun o wefan brezhoneg.org.uk

Sgrinlun o wefan brezhoneg.org.uk

Rwy’n meddwl amdani weithiau (rhyfedd, rwy’n gwybod), ond yn anffodus dyw’r wefan ddim yn bodoli ers sawl blwyddyn. Ar ôl bach o ymchwil yn ddiweddar dysgais mai cronfa o frawddegau ac ymadroddion o bytiau dwyieithog yng nghylchgrawn Cymdeithas Cymru Llydaw oedd ar wefan brezhoneg.org.uk. Dyma neges esboniadol:

The accompanying Sentence Bank file (Cronfa_Frawddegau_Breizh_Llydaw) contains 3,500 aligned sentences and phrases from bilingual pieces in recent issues of Breizh-Llydaw, the magazine of the Wales-Brittany Society (www.cymru-llydaw.org.uk) and from a bilingual collection of sayings and quotations put together by Rhisiart Hincks. The sentences are released here under the GPL license, thanks to kind permission from Dr Hincks, editor of Breizh-Llydaw. We hope that the Sentence Bank will prove useful to those learning Welsh or Breton, or working on more esoteric projects such as machine translation between the two languages.

Gan fod y gronfa wedi ei rhyddhau o dan drwydded GPL, penderfynais rannu’r data a chreu rhyw fath o ryngwyneb i allu pori drwyddi. Caiff ei letya ar y wefan hon, ac mae’n edrych fel hyn:

Sgrinlun o ryngwyneb pori drwy Gronfa Frawddegau Breizh-Llydaw

Sgrinlun o ryngwyneb pori drwy Gronfa Frawddegau Breizh-Llydaw

Dyw hi ddim cystal â gwefan brezhoneg.org.uk (a oedd hefyd yn trin treigladau, ac yn cynnwys geiriadur), ond mae’n caniatáu i ddefnyddwyr ddod o hyd i eiriau penodol yn y naill iaith neu’r llal, neu ganfod geiriau sy’n dechrau gyda’r llythrennau penodol, sy’n ddefnyddiol i ganfod terfyniadau gwahanol.

Ac er mwyn bod yn hollol agored, rwy’n cyfaddef imi gael cymorth gan fodel iaith mawr i’w roi at ei gilydd!

Gallwch ddod o hyd i’r rhyngwyneb drwy glicio yma. Rwy’n gobeithio y bydd o ddefnydd i unrhyw un sy’n dysgu Llydaweg (neu’r Gymraeg). Mae’r ffeiliau gwreiddiol i’w canfod yma.